Mewn ysgrifen neu mewn teip, pâr neu fwy o graffemau sy'n cyfuno i greu un glyff yw clymlythren. Gelwir yn "ligature" yn Saesneg. Gellir meddwl amdanno fel ffordd o dalfyrru dwy lythyren wahanol er mwyn arbed lle, symlrwydd neu aetheteg.
Un enghraifft yw'r nod æ a ddefnyddir yn Saesneg, lle clymwyd y llythrennau a ac e. Hynny yw, mae'r un glyff, nôd, gall gynnwys sawl llythyren neu siâp arall yn clymu i greu un sain.
Enghraifft arall yw'r ampersand (&) a ddefnyddir yn y Saesneg. Daeth y clymlythren yma wrth gyfuno ysgrifennu'r llythrennau Lladin e a t (i sillafu et, y gair Lladin am y gair a, and yn Saesneg).
Datblygwyd clymlythrennau yn yr Oesoedd Canol wrth i ysgrifwyr geisio arbed lle wrth ysgrifennu gan fod ysgrifennu ar felwm (croen llo neu anifal arall) mor ddrud. Datblygwyd system dwys o dalfyrru llythrennau a sillafiadau. Yn ystod cyfnod cynnar yr argraffwasg datblygwyd teipwynebau ar gyfer cyfuniadau o lythrennau byddai'n ymddangos yn fynych. Gwnaed hyn i arbed amser a hefyd hefyd gynllun clymlythrennau mwy trawiadol er mwyn torri ar undonedd y print.
Datblygodd nifer o diacritigs ieithoedd Ewrop o'r arferion canol oesol hyn, er na meddylir am bob un bellach fel clymlythyren. Ymysg un o'r clymlythrennau oedd yr arfer Almaeneg o roi e uwchben y llefariaid a, o, u er mwyn arbed lle o orfod ysgriennu ae, oe, ue. Daeth yr e yn nes ymlaen yn umlaut a ddefnyddir bellach yn yr iaith.
Dangoswyd hanes didoriad o roi e uwchben a, o, uû Almaeneg yn y sgript Gothig Almaenig ac felly yn arbennig mewn arddull ohono a elwir yn Kurrent, ac yna, ymgorfforiad mwyaf diweddar (a'r olaf i'w ddysgu i blant ysgol a'i ddefnyddio mewn modd swyddogol, Sütterlin. Mae'r e Kurrent yn ymdebygu i ddwy linell fertigol gan felly ddangos o le ddaeth yr umlaut. Ceir hefyd clymlythrennau yn Sütterlin ar gyfer ..